Croeso i Reilffordd Ysgafn Y Trallwng a Llanfair. Agorwyd y lein ym 1903 i gysylltu tref farchnad Y Trallwng a chymuned gwledig Llanfair Caereinion. Bellach mae'r rhelffordd gul (2' a 6") yma yn cynnal gwasanaeth twristaidd i'r holl deulu, sy'n cynnig newid o ruthr pob dydd y byd tu allan.
Fe'i gwnaed yn Reilffordd Ysgafn i osgoi costau adeiladu'r lein, y cledrau cul yn caniatau trofaon tynn a gelltydd serth a galluogi'r lein i ddilyn y tirwedd. Mae'n trenau oll yn cael eu tynnu gan beiriannau ager, eithr ein peiriannau gwreiddiol unigryw neu rai dros y dŵr. Mae'n coetsys yn arbennig hefyd; mae'r rhai sy'n cael eu defyddio yn gyson yn dod o Hwngari ac Awstria, gyda'r fynedfa o'r oriel agored - lle gwych i wylio byd natur.